Nodweddion

Mae Dyfi yn un o’r enghreifftiau gorau yng ngogledd-orllewin Ewrop o forfa heli aberol, sydd heb ei heffeithio’n ormodol gan ddatblygiad diwydiannol. Mae ystod eang o gynefinoedd aberol yn bresennol, gan gynnwys ardaloedd gosod mawn prin.

Mae Cors Fochno o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd y gyforgors aberol, un o’r cyforgorsydd actif mwyaf yn y Deyrnas Gyfunol. Mae’r geomorffoleg, fflora a ffawna di-asgwrn-cefn yn arwyddocaol a bregus.

Mae’r ardal yn cynnal yr unig safle gaeafu reolaidd Gwyddau Talcen Wen yr Ynys Las yng Nghymru a Lloegr, ac yn ardal allweddol yng Nghymru i Rhydwyr magu. Mae yma economi dwristiaeth o bwys yn seiliedig ar gefndir daearyddol, hanesyddol a diwylliannol yr ardal ac mae’r afon yn cynnig buddion hamdden ac addysgol gyda’r aber a’i thirwedd amgylchynol, sy’n bennaf amaethyddol ac yn cynnal teuluoedd amaethyddol a chymunedau Cymraeg eu hiaith.

Allwch chi helpu?

Rydym angen gwirfoddolwyr ar gyfer y cyfri gwenyn.

E-bost: pennalpartners@aol.com

Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur (cylch tri) yn cael ei darparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Lluniau: Arwel Lewis Photography, H. Mitchell, D. Smith, Cyfoeth Naturiol Cymru a Amgueddfa Hanes Natur.