Pori

Mae partneriaeth Pennal yn treialu’r defnydd o dechnoleg coleri pell-reoledig ar draws ardaloedd pori yn nhalgylch y Ddyfi. Mae’r coleri GPS a’r rhwystrau rhithiol yn cynnyddu opsiynnau rheolaeth ar gyfer lles anifeiliaid, diogelwch a chadwriaeth naturiol.

Mae’r system yn cynnig mwy o reolaeth o’r pori yn yr ardaloedd amgylcheddol sensitif gan y gall rhwystrau rhithiol greu parthau caëdig ac agored, sy’n galluogi pori dwys am gyfnodau penodedig o fewn ardaloedd pendant fel y forfa heli yma ar Aber y Ddyfi.

Byddwn hefyd yn treialu i weld os gall y coleri gael ei defnyddio i warchod sianeli dŵr rhag cael eu llygru gan stoc, ac felly sicrhau cynefin gwell i fywyd gwyllt. Yn nhermau lles anifeiliaid, ystyrir y system yn well na ffens drydan a bydd hefyd yn galluogi inni warchod anifeiliaid rhag perygl.

Allwch chi helpu?

Rydym angen gwirfoddolwyr ar gyfer y cyfri gwenyn.

E-bost: pennalpartners@aol.com

Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur (cylch tri) yn cael ei darparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Lluniau: Arwel Lewis Photography, H. Mitchell, D. Smith, Cyfoeth Naturiol Cymru a Amgueddfa Hanes Natur.