Gwenyn

Mae Cymru – ynghyd â gweddill y DU – wedi colli 97% o’i dolydd llawn blodau gwyllt ers y 1930au. Fel y bu gostwng yn nifer y blodau yng nghefn gwlad, felly hefyd ein peillwyr gwenynol, ac mae angen ein cymorth arnynt.

Yn y 100 mlynedd diwethaf, mae dau rywogaeth wedi darfod amdanynt yn y DU a mae wyth (un rhan o dair) o’r 24 rhywogaeth ar ôl wedi’u rhestri fel rhywogaethau o flaenoriaeth cadwriaethol oherwydd y gostyngiad eang yn eu lledaeniad. Mae prosiect Adfer Dyfi yn gweithio gyda’r ‘Bumblebee Conservation Trust’ i ehangu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ein peillwyr ym myd natur ac yn y gadwyn fwyd.

Mae ein partneriaid ffermio hefyd yn helpu drwy greu banciau pridd yn wynebu’r de i annog gwenyn i ymweld a nythu. Yn ychwanegol, rydym yn plannu gwrychoedd i ddarparu ffynhonnell fwyd ac i gefnogi rhwydweithiau a choridorau’r dalgylch.

Allwch chi helpu?

Rydym angen gwirfoddolwyr ar gyfer y cyfri gwenyn.

E-bost: pennalpartners@aol.com

Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur (cylch tri) yn cael ei darparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Lluniau: Arwel Lewis Photography, H. Mitchell, D. Smith, Cyfoeth Naturiol Cymru a Amgueddfa Hanes Natur.