ArafLlif

Rydym i gyd yn gorfod addasu i newid hinsawdd. Mae cyfnodau hwy o law neu sychder, digwyddiadau glawiad llethol a’r bygythiad o lifogydd yn dod yn rhan o’n bywyd beunyddiol. Bwriadwn annog gwytnwch yn nhalgych y Ddyfi drwy weithredoedd sy’n cynnwys arafu llifeiriant y glaw o’r bryniau amgylchynol i’r afon.

Rydym yn gweithio gydag arbenigwyr i fodelu sut y gallwn helpu cynllunio’r gweithredoedd yn y dalgylch, a chyda nifer o brifysgolion i ddatblygu monitro effeithlon fydd yn gymorth inni leihau llif ar lednentydd a’u heffaith ar y rhywogaethau a thirweddau gwarchodedig o’n cwmpas.

Bydd cyfres o osodiadau sbwriel coed yn cael eu creu ar draws coedwig Cyfoeth Naturiol Cymru a hefyd ardaloedd amaethyddol. Bydd rhain yn caniatau i bysgod dramwyo ond gan droi peth o’r dŵr i’r tir, iddo gael ei amsugno a chreu oedi er mwyn llyfnhau llif mewn digwyddiadau o law trwm. Bydd gwneud y tir yn wlypach hefyd yn creu cynefinoedd newydd ar gyfer amphibiaid, pryfaid a mamaliaid bach.

Allwch chi helpu?

Rydym angen gwirfoddolwyr ar gyfer y cyfri gwenyn.

E-bost: pennalpartners@aol.com

Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur (cylch tri) yn cael ei darparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Lluniau: Arwel Lewis Photography, H. Mitchell, D. Smith, Cyfoeth Naturiol Cymru a Amgueddfa Hanes Natur.