Gweithredoedd

Mae llinynau prosiect Adfer Dyfi yn cynnwys ystod eang o weithrediadau a gweithgareddau er enghraifft:
 

  • Pori dethol gan ddefnyddio systemau coleri GIS i warchod y glannau ADdGA ac i osgoi gor-bori neu ddiffyg pori ardaloedd;
  • Ffensio cyrsiau dŵr i ddiogelu rhag llygredd gan anifeiliaid ac erydiad y glannau;
  • Plannu neu reoli coed i ddarparu mosäig o haul, cysgod a chynefin;
  • Ehangu’r mesurau ‘slo-flo’ i dalgylch ehangach i leihau erydiad dŵr a chreu oediad er budd ecoleg yr afon (a hefyd anheddau dynol ac isadeiledd);
  • Cefnogaeth i rywogaethau sy’n defnyddio’r Ddyfi ac amgylcheddau cysylltiol;
  • Gwelliant yng nghynefinoedd peillwyr gyda phrofion yn nhalgylch y Ddyfi i annog mwy o nythu gan wenyn unig;
  • Monitro rhywogaethau ac iechyd yr afon;
  • Cynnwys y gymuned leol;
  • Digwyddiadau a deunyddiau i ysgolion.

Allwch chi helpu?

Rydym angen gwirfoddolwyr ar gyfer y cyfri gwenyn.

E-bost: pennalpartners@aol.com

Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur (cylch tri) yn cael ei darparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Lluniau: Arwel Lewis Photography, H. Mitchell, D. Smith, Cyfoeth Naturiol Cymru a Amgueddfa Hanes Natur.