Bioamrywiaeth

Mae bywyd gwyllt helaeth yma gyda’r afon yn cefnogi cannoedd o rywogaethau. Dyma nodi rhai enghreifftiau:

Dyfrgi (Lutra lutra)
Mae’r dyfrgi swil yn werth ei weld ar y Ddyfi, ac os ydych yn ffodus fe allwch gael cip ohonynt yn chwarae ar y glannau graeanog gyda rhai bach. Maent yn bwyta pysgod, amphibiaid fel brogaod, adar, wyau a phryfaid. Mae’u cynffonau hir, cyhyrog a thraed gweog yn eu gwneud yn nofwyr cryfion tra bod eu wisgers sensitif a chrafangau cryfion yn galluogi iddynt ganfod a dal eu prae.

Gwyddau Talcen Wen yr Ynys Las (Anser albifrons flavirostris)
Yn nechrau’r 1900au gwelwyd y rhywogaeth yma ar nifer o lynoedd a chorsydd ar fryniau yn nhalgylch Dyfi. Bwriad y ‘Dyfi & District Wildfowlers’ Association, gyda chydweithrediad tirfeddiannwyr a helwyr, oedd gwarchod yr adar, a bu twf yn eu rhifau gan gyrraedd pegwn o 200 o adar yn 1990.

Erbyn heddiw dim ond tua dau ddwsin sydd yn gaeafu yn rheolaidd ar yr aber, a dyma’r unig safle yng Nghymru lle gellir dod o hyd iddynt. Cymerodd Partneriaeth Pennal ran ym mhrosiect ‘Echoes’, astudiaeth fanwl gan Brifysgol Aberystwyth a Choleg Prifysgol Cork, yn edrych ar effeithiau newid hinsawdd ar gynefinoedd rhywogaethau o adar arfordirol yng Nghymru.

Eog yr Iwerydd (Salmo salar)
Mae statws yr Eog ar y Ddyfi “mewn perygl” (CNC) gyda llai o ddodwy wyau a stoc ohonynt. Mae’n bwysig cysidro’r dalgylch gyfan pan yn anelu i wella safleoedd epiliad, lleihau rhwystrau i fudo’r pysgod a gwella lefelau ph ( e.e. lleihau lefelau asid yn y dŵr ddaw o gwymp pinau coed conifer sy’n cael eu cario o ardaloedd coediog y dalgylch.)

Brithyll y Môr (Salmo trutta orma trutta)
Neu Siwyn fel y gelwir yn lleol, sy’n gyffredin ar y Ddyfi ond, fel yr eog, yn wynebu gostyngiad yn eu nifer. Gellir ei bysgota’n gyfreithlon gan ddefnyddio trwydded gan y ‘New Dovey Fishery’. Mae’n erbyn y gyfraith i werthu, ffeirio neu gyfnewid am nwyddau neu wasanaethau frithyll y môr wedi’i ddal â gwialen. Mae rheolau ynghŷn â dychwelyd llawer o’r siwyn ddelir, yn ôl maint neu amser y flwyddyn.

Lamprai
Mae’r Lamprai di-ên yma yn hidlwyr bwyd sydd wedi byw am filoedd o flynyddoedd ar yr ddaear gyda un ffosil ohono wedi’i ddarganfod yn ne Affrica wedi’i ddyddio nôl 360 miliwn o flynyddoedd. Rwan mae poblogaeth y lamprai yn lleihau yn bennaf oherwydd is-raddio cynefin, drylliad a llygredd. Mae’r lamprai afon Ewropeaidd (Lampetra fluviatilis) a’r lamprai môr (Petromyzon marinus) i’w darganfod ar y Ddyfi.

Salicornia (Salicornia europaea)
Adnabyddir fel y llyrlys neu’r gwyrddlys sy’n blanhigyn blodeuog o deulu’r Amaramthacae. Mae’r gwyrddlys yn lysieuyn suddlon ac yn gallu dioddef dŵr hallt. Fel y rhan fwyaf o’r is-deulu rhywogaethol Salicornioideae, mae rhywogaethau Salicornia yn defnyddio llwybr sefydledd carbon C3 i ymsugno Carbon deuocsid o’r awyrgylch o’i gwmpas.

Infertebratiau / Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn
Di-asgwrn-cefn – mae gan y Ddyfi ystod eang o infertebratiaid gyda phrosiect Pennal 2050 dan Bartneriaeth Pennal (drwy y Cynllun Rheolaeth Gynaliadwy – Llywodraeth Cymru Cymunedau Cefn Gwlad – Rhaglen Datblygu Cefn Gwlad 2014-2020, ariennir gan gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer datblygu cefn gwlad a Llywodraeth Cymru) yn trefnu nifer o arolygon safleoedd (e.e. Afon Dyfi, Afon Sychan, Afon Cwrt) dros gyfnod o bum mlynedd.

Adar
Ynghyd â’r crëyr bach copog, nodwyd cynt bod gan aber y Ddyfi yr ystod mwyaf cyfoethog o adar, o unrhyw ran o ardal Mynyddoedd y Cambria. Mae data mwyaf diweddar Tir Canol, weinyddwyd gyda chymorth gan Bartneriaid Pennal yn dangos 49 o rywogaeth mewn dau ymweliad yn 2023. Recordiwyd saith rhywogaeth ar y rhestr goch – Llinos, Tresglen neu Bronfraith Fawr, Telor y Gwair, Gwylan Lwyd, Ehedydd, Gwybedwr Mannog a Llinos Werdd.

Allwch chi helpu?

Rydym angen gwirfoddolwyr ar gyfer y cyfri gwenyn.

E-bost: pennalpartners@aol.com

Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur (cylch tri) yn cael ei darparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Lluniau: Arwel Lewis Photography, H. Mitchell, D. Smith, Cyfoeth Naturiol Cymru a Amgueddfa Hanes Natur.