Amdanom Ni

Mae’r prosiect llawr gwlad hwn yn ddatblygiad o waith peilot gwobrwyedig  ymgymerwyd gan yr ymgeisydd arweiniol, Partneriaeth Pennal, yn rhan o’r dalgylch sydd wedi galluogi i brifysgolion gymryd rhan yn y gwaith a chynhyrchu sawl prosiectau ymchwil o’r radd flaenaf ym myd-eang. Mae’r gwaith yn cynnwys gweithrediadau gan dirfeddianwyr a phartneriaid i ddarparu dŵr glanach, ystod ehangach o gynefinoedd a mynediad gwell i dreftadaeth naturiol.

Bydd y Bartneriaeth yn gweithio’n agos gyda ‘New Dovey Fisheries’, sy’n perchen rhydd-ddeiliad yr Afon Dyfi, a Chyfoeth Naturiol Cymru sydd â chyfrifoldeb dros gynlluniau rheolaeth ardaloedd gwarchodedig megis Aber y Ddyfi.

Mae’r Aber wedi’i dynodi yn Ardal o Gadwraeth Arbennig i Adar, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn Warchodfa Briosffêr UNESCO ac yn ardal RAMSAR (Ramsar yw enw’r ddinas yn Iran lle cynhaliwyd Cynhadledd ar Wlypdiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol yn 1971).

Allwch chi helpu?

Rydym angen gwirfoddolwyr ar gyfer y cyfri gwenyn.

E-bost: pennalpartners@aol.com

Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur (cylch tri) yn cael ei darparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Lluniau: Arwel Lewis Photography, H. Mitchell, D. Smith, Cyfoeth Naturiol Cymru a Amgueddfa Hanes Natur.