Afon

Beth sydd yn ein hafon? Sawl rhywogaeth gwahanol mae’r Ddyfi’r cynnal? Rydym wedi gwneud peth monitro yn y gorffennol; ond fe fyddwn yn darganfod mwy drwy wneud samplo cic ychwanegol ac adnabod trychfilod.
Mae gennym gefnogaeth y ‘Natural History Museum sy’n fyd-enwog, a sydd ag arbenigwyr a labordai. Wedi’u staffio gan arbenigwyr mewn bioleg moleciwlaidd, mae’r labordai yn gwneud ymchwil ar DNA o echdyniad drwodd i ddadansoddiad olynol.
Mae ein prosiectau, ariennir gan gronfa Rhwydweithiau Natur hefyd yn ein galluogi i sicrhau dŵr glanach gyda mwy o ffensio a choleri pell-reolaeth i gadw anifeiliaid allan o’r afon a’i llednentydd ynghyd â dosbarthiadau meistr i’n tirfeddiannwyr ar bridd iach gan gynnwys y defnydd gorau o berlysiau â gwreiddiau hir i helpu amsugno glaw ac ar gyfer gwell bioleg pridd.

Lluniau: Arwel Lewis Photography, H. Mitchell, D. Smith, Cyfoeth Naturiol Cymru a Amgueddfa Hanes Natur.