Gweithredoedd

Mae llinynau prosiect Adfer Dyfi yn cynnwys ystod eang o weithrediadau a gweithgareddau er enghraifft:
- Pori dethol gan ddefnyddio systemau coleri GIS i warchod y glannau ADdGA ac i osgoi gor-bori neu ddiffyg pori ardaloedd;
- Ffensio cyrsiau dŵr i ddiogelu rhag llygredd gan anifeiliaid ac erydiad y glannau;
- Plannu neu reoli coed i ddarparu mosäig o haul, cysgod a chynefin;
- Ehangu’r mesurau ‘slo-flo’ i dalgylch ehangach i leihau erydiad dŵr a chreu oediad er budd ecoleg yr afon (a hefyd anheddau dynol ac isadeiledd);
- Cefnogaeth i rywogaethau sy’n defnyddio’r Ddyfi ac amgylcheddau cysylltiol;
- Gwelliant yng nghynefinoedd peillwyr gyda phrofion yn nhalgylch y Ddyfi i annog mwy o nythu gan wenyn unig;
- Monitro rhywogaethau ac iechyd yr afon;
- Cynnwys y gymuned leol;
- Digwyddiadau a deunyddiau i ysgolion.

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei ddarparu gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.
Lluniau: Arwel Lewis Photography, H. Mitchell, D. Smith, Cyfoeth Naturiol Cymru a Amgueddfa Hanes Natur.